Mae udcorn Jubili   /   Mae udgorn Jiwbili   /   Mae utcorn Jiwbili   /   Mae utgorn Jiwbili

1,2,5,6;  1,3,4;  1,3,(5),6;  1,(5),7;  1,6.
  Mae utgorn Jiwbili
  Am haeddiant Calfari
      Yn seinio'n llon
  Newyddion gorau i ni;
Gwir lawenha, fy enaid prudd,
Enillodd Iesu mawr y dydd!
    Daw carcharorion angau
O'u rhwymau oll yn rhydd.

  'Dall Pharaoh, er ei frâd,
  Niweidio'r un o'r hâd
    Sy'n tynu fry,
  At dawel dŷ eu Tad;
Nid all yr anial tywyll, du,
Byth ddrygu neb o'r dedwydd lu,
    Yn dawel sydd dan aden
Eu cadben, Iesu cu.

  Yn nyfnder pob rhyw loes
  A gorthrymderau f'oes
      Fy noddfa a'm nerth
  Yw'r aberth ar y groes:
Rhinweddau haeddiant marwol glwy'
Yw 'nghysur yn y byd tra bwy'
    A'm hunig ddigonoldeb
I dragwyddoldeb mwy.

  Trwy Grist a'i werthfawr waed
    Y daeth maddeuant rhâd,
      I ddynol-ryw
    Iachawdwr gwiw a gaed;
Ei fywyd pur a'i angeu loes,
A'i ddioddefaint ar y groes,
  A ddygo fy serchiadau
Tra par'o dyddiau f'oes.

  Gorchfygodd Brenin hedd,
  Fyd, uffern, angau a'r bedd,
      Prïodi a wnaeth,
  Yr hon oedd yn gaeth ei gwedd;
Am hyn crechwena Sion wan,
O'th ardal lesg, a thyr'd i'r lan,
    Tywysog y tangnefedd,
Da'i rinwedd yw dy ran.

  Rhyw dyrfa fawr heb ri'
  Fu ar ein daear ni
      Tan lawer loes
  A llid a chroes a chri,
Sy'n awr mewn bywyd hyfryd hoen
Ger bron gorseddfainc Duw a'r Oen
    Heb deimlo mwy flinderau,
Effeithiau llid na phoen.

  Yr ochor draw i'r bedd,
  Y saint fydd ar Ei wedd;
      Hwy gânt i gyd
  Fwynhau Ei hyfryd hedd;
A'u holl ganiadau yn gytûn,
Fydd byth am gariad Tri yn Un,
    Ac am dragwyddol arfaeth,
Yn iachawdwriaeth dyn.
Utgorn :: Udcorn :: Udgorn :: Utcorn
Newyddion gorau :: Y newyddion goreu
ar y groes :: fu ar y groes
Rhinweddau :: Rhinweddol
Prïodi a wnaeth :: Gwaredu wnaeth
oedd yn gaeth :: oedd gaeth
Rhyw dyrfa :: Mae tyrfa
Sy'n awr :: Yn awr
llid na phoen :: llid a phoen

Grawnsypiau Canaan 1795
1: R Jones
3: Siarl Mark 1720-95

Tonau [6646.8878]:
Bow Street (<1905)
Llandegla (Samuel Evans 1817-1902)
Llanidloes (R Mills 1809-44)
  Lligwy (Gwynfryn Evans, Llanallgo.)
Noddfa (J G Ebeling 1635-76)
Soar (Samuel Evans)
Trefdeyrn (1817 Cas. Owen Williams 1774-1839)

gwelir:
  I Ddafydd llawen iawn
  Hosanna dyma'r dydd
  Mae llais y durtur fwyn
  Mae tyrfa fawr heb ri
  Teg wawriodd arnom ddydd
  Trwy Grist a'i werthfawr waed
  Yr ochor draw i'r bedd

  The Jubilee trumpet is
  About the virtue of Calvary
      Sounding cheerfully
  The best news for us;
Rejoice truly, my sad soul,
Great Jesus has won the day!
    Death's prisoners will come
Free from all their bonds.

  Pharaoh cannot, for all his treachery,
  Harm a single one of the seed
    Which is drawing up,
  To the quiet house of their Father;
The dark, black desert cannot
Ever harm any of the happy throng,
    Who are quietly under the wing
Of their captain, dear Jesus.

  In the depth of every kind of grief
  And oppression of my lifetime
      My refuge and my strength
  is the sacrifice on the cross:
The virtue of the merits of a mortal wound
Are my comfort in the world as long as I life
    An my only sufficiency
For eternity evermore.

  Through Christ and his precious blood
  Came gracious forgiveness,
      For human-kind
    A worthy Saviour was got;
His pure life and his throes of death,
And his suffering on the cross,
  Shall draw my affections
While ever the days of my age endure.

  The King of peace overcame,
  World, hell, death and the grave,
      He has espoused,
  The one who was in a captive state;
Therefore laugh, weak Sion,
From thy feeble province, and come up,
    The Prince of peace,
With his virtue is thy portion.

  Some great crowd without number
  Which was on our earth
      Under much anguish
  And anger and cross and cry,
Are now in a life of delightful vivacity
Before the throne of God and the Lamb
    Without feeling any more weariness,
The effects of anger nor pain.

  On the far side of the grave,
  The saints will be in His image;
      They will all get
  To enjoy His delightful peace;
And all their songs in agreement,
Will forever be about the love of Three in One,
    And about an eternal weapon,
As the salvation of man.
:: :: ::
::
on the cross :: which was on the cross
The virtues of :: The virtuous
He has espoused :: He delivered
::
Some ... crowd :: There is a ... crowd
Which are now :: Now
anger nor pain :: anger and pain

tr. 2011 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~